Ynglyn â Hepatitis C

Hepatitis C - ALLECH CHI FOD AG O?

Beth yw hepatitis C?

Firws a gludir yn y gwaed yw’r firws hepatitis C a’r dulliau mwyaf cyffredin o heintio yw drwy amlygiad i feintiau bychan o waed.

Bydd firws hepatitis C (HCV) yn achosi haint sy’n llym ac yn gronig. Bydd haint HCV fel rheol yn asymptomatig, a dim ond yn anaml iawn (os o gwbl) y’i cysylltir ag afiechyd sy’n peryglu bywyd. Bydd oddeutu 15–45% o bobl fydd wedi’u heintio’n clirio’r firws yn ddigymell o fewn 6 mis o heintiad heb unrhyw driniaeth.

Bydd y 55-85% o bobl sydd ar ôl yn datblygu haint HCV cronig. O’r rheiny â haint HIV cronig, mae’r risg o sirosis yr iau rhwng 15-30% o fewn 20 mlynedd.

Ydi hepatitis C yn broblem ddifrifol yng Nghymru?

Amcangyfrifir fod Cymru â 12,000 – 14,000 o bobl sydd â hepatitis C ac mae mwyafrif y rheiny’n dal i fod heb ddiagnosis.

Sut allwch chi gael hepatitis C yng Nghymru?

Oherwydd y gellir trosglwyddo’r firws drwy gysylltiad â gwaed o berson sydd wedi’i heintio, gallai pobl penodol fod mewn mwy o berygl o gael hepatitis C.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu ac sy’n rhannu nodwyddau;
  • Y rheiny sy’n dod i gysylltiad â chynhyrchion gwaed h.y. gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchardai;
  • Babanod sydd wedi’u geni i famau sydd wedi’u heintio (gallai oddeutu 5% o famau sydd wedi’u heintio drosglwyddo’r haint i’w babanod);
  • Pobl sydd wedi derbyn trallwysiad gwaed cyn 1991 yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad sydd ddim yn sgrinio ei gwaed ar gyfer y firws.

Fe ledaenir y firws pan fydd gwaed o berson sydd wedi’i heintio’n mynd i mewn i lif gwaed person arall neu’n anaml o fam i fabi, cyn neu yn ystod genedigaeth.

Ar hyn o bryd y prif ddull o ledaenu hepatitis C yn y DU yw drwy ddefnyddio cyffuriau, drwy rannu cyfarpar sydd wedi’i halogi. Gall tyllu’r corff neu datwio gan ddefnyddio offer sydd heb ei sterileiddio ledaenu’r firws. Gellir lledaenu hepatitis C drwy gyfathrach rywiol ond mae hyn yn anghyffredin iawn.

Sut allaf i ddweud os bydd rhywun â hepatitis C?

Ni fydd gan lawer o bobl sydd â hepatitis C unrhyw symptomau o gwbl ac fe fyddant yn anymwybodol eu bod â’r haint. Fe allant ddatblygu symptomau’n ddiweddarach wrth i’w hiau gael ei niweidio fwyfwy.

Pan fydd symptomau’n digwydd, gellir eu camgymryd am gyflwr arall. Gall symptomau gynnwys:

  • Symptomau fel y ffliw, fel poenau yn y cyhyrau a thymheredd uchel (twymyn);
  • Teimlo blinder drwy’r amser;
  • Colli archwaeth;
  • Poen yn yr abdomen (bol);
  • Teimlo’n sâl a chwydu.

Yr unig ffordd o wybod i sicrwydd ai hepatitis C sy’n peri’r symptomau hyn yw cael prawf.

Sut ydw i i’m diogelu fy hun rhag hepatitis C?

Nid oes yna frechlyn ar gyfer hepatitis C, ond y mae yna ffyrdd o leihau eich risg o gael eich heintio, fel:

  • Peidio â rhannu unrhyw gyfarpar chwistrellu cyffuriau â phobl eraill – yn cynnwys nodwyddau a chyfarpar arall fel nodwyddau, llwyau a hidlyddion;
  • Peidio â rhannu raseli neu frwshys dannedd a allai fod wedi’u halogi â gwaed.

Mae’r risg o gael hepatitis C drwy ryw yn isel iawn. Fodd bynnag, fe allasai fod yn uwch os bydd gwaed yn bresennol, fel gwaed mislifol neu waedu ysgafn yn ystod rhyw rhefrol.

Mae’n syniad da defnyddio condomau wrth gael rhyw rhefrol neu ryw â phartner newydd.

Sut ydw i i ddiogelu eraill rhag cael hepatitis C?

Gall diagnosis a thriniaeth gynnar helpu i atal neu gyfyngu ar unrhyw niwed i’ch iau a helpu i sicrhau na fydd yr haint yn cael ei basio ymlaen i bobl eraill. Cewch wybod am gael triniaeth ar eich cyfer eich hun a diogelu eraill rhag hepatitis C ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Os byddaf yn meddwl fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o gael hepatitis C beth ddylwn i ei wneud?

Dylech fynd i gael cyngor gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am hepatitis C?

Mae Galw Iechyd Cymru â gwybodaeth eang am hepatitis C ar eu gwefan. Gellir cael cyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

Aseswch eich Risg. Gweithredwch.
Gallwch gael gwybodaeth am gyngor a phrofion yn eich ardal chi

Ynglyn â

Mae'r safle hwn wedi cael ei gynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru