Ynglyn â Hepatitis B

BYDDWCH YN YMWYBODOL

Beth yw hepatitis B?

Haint llym yr iau yw hepatitis B. Fe’i lledaenir fel rheol drwy waed sydd wedi’i halogi drwy gyfathrach rywiol, rhannu nodwyddau, trallwysiadau gwaed a phigiadau. Gellir trosglwyddo’r firws ymlaen hefyd o fam i fabi. Mae tatwio, tyllu’r corff ac aciwbigo’n ffyrdd eraill y gellir lledaenu’r firws.

Gall hepatitis B fod un ai’n “llym” neu’n “gronig”.

Mae haint firws hepatitis B Aciwt yn salwch tymor byr sy’n digwydd o fewn y 6 mis cyntaf wedi i rywun gael ei amlygu i’r firws hepatitis B. Gall haint aciwt arwain at haint cronig - ond nid bob amser.

Mae haint firws hepatitis B Cronig yn salwch tymor hir sy’n digwydd pan fydd y firws hepatitis B yn aros yng nghorff person.

Ydi hepatitis B yn broblem ddifrifol yng Nghymru?

Er bod y niferoedd yn fychan yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r byd, mae grwpiau penodedig â mwy o risg. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd yn wreiddiol o wledydd sydd â risg uchel, pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, a phobl sy’n cael rhyw heb ddiogelwch â phartneriaid rhywiol lluosog.

Pwy fydd yn cael hepatitis B yng Nghymru?

Gan y gellir trosglwyddo’r firws drwy gysylltiad â gwaed neu hylifau corff person sydd wedi’i heintio, gallai pobl arbennig fod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y rheiny sy’n cael cysylltiad â chynhyrchion gwaed h.y. gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchar;
  • Partneriaid rhywiol a theulu agos a chysylltiadau cartref person sydd wedi’i heintio;
  • Defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu ac sy’n rhannu nodwyddau;
  • Pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml;
  • Pobl sy’n ymweld â gwledydd lle mae hepatitis B yn gyffredin;
  • Babanod sydd wedi’u geni i famau sydd wedi’u heintio.

Sut allaf i ddweud a yw rhywun â hepatitis B?

Ni fydd llawer o bobl sydd â haint hepatitis B yn gwybod eu bod wedi’u heintio gan na fydd ganddyn nhw unrhyw symptomau o gwbl. Gallai eraill brofi ystod o symptomau o gael eu heintio y tro cyntaf.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • Salwch fel y ffliw;
  • Blinder eithafol;
  • Colli archwaeth;
  • Y croen a’r llygaid yn melynu (clefyd melyn);
  • Wrin tywyll.

Gall unrhyw un sydd â’r haint ei roi i eraill, hyd yn oed pe na fyddent ag unrhyw symptomau neu heb wybod eu bod wedi’u heintio. Fe nodir haint hepatitis B â phrawf gwaed fel rheol.

Does yna ddim gwellhad i hepatitis B hyd yma ond mae yna beth triniaeth a allai helpu i atal y difrod i’r iau rhag gwaethygu a’r firws rhag lluosogi. Bydd effeithiolrwydd y driniaeth hon yn wahanol rhwng unigolion. Gallwch gael mwy ar drin hepatitis B ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Sut allwch chi gael hepatitis B?

Mae’r firws hepatitis B i’w gael yn y gwaed a hylifau’r corff, fel semen a hylifau’r wain mewn person sydd wedi’i heintio.

Gellir ei ledaenu drwy:

  • Gael rhyw â pherson sydd wedi’i heintio heb ddefnyddio condom;
  • Cael tatŵ, ’tyllu’r corff, neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol mewn amgylchedd nad yw’n lanwaith gydag offer sydd heb eu sterileiddio;
  • Rhannu brwsh dannedd neu rasel sydd wedi’u halogi â gwaed wedi’i heintio;
  • Chwistrellu cyffuriau a rhannu nodwyddau a chyfarpar cyffuriau eraill, fel llwyau a hidlyddion;
  • Mam i’w baban newydd-anedig, yn enwedig mewn gwledydd lle bydd haint yn gyffredin - darllenwch fwy am hepatitis B yn ystod beichiogrwydd;
  • O fewn teuluoedd (plentyn i blentyn) mewn gwledydd lle mae’r haint yn gyffredin.

NI ledaenir hepatitis B drwy gusanu, gafael mewn dwylo, cofleidio, pesychu, tisian, na rhannu llestri ac offer.

Gallwch ddarllen mwy am achosion hepatitis B ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Sut allaf i fy niogelu fy hun rhag hepatitis B?

Mae ffyrdd o leihau eich risg o gael haint hepatitis B yn cynnwys:

  • Osgoi cyfathrach rywiol heb ddiogelwch, yn enwedig os byddwch yn newid partneriaid yn aml;
  • Gofalu fod nodwyddau a ddefnyddir ar gyfer cyffuriau, tyllu a thatwio’n ddi-haint – peidiwch â rhannu;
  • Peidiwch â rhannu raseli, brwshys dannedd neu emwaith tyllu â neb;
  • Gwisgwch fenig wrth gyffwrdd â gwaed/hylifau corff pobl eraill neu eu glanhau;
  • Golchwch eich dwylo ac unrhyw groen sydd wedi cyffwrdd ag unrhyw waed/croen;
  • Gorchuddiwch bob toriad neu archoll agored;
  • Mynnwch y brechiad hepatitis B os byddwch yn meddwl eich bod mewn perygl o gael haint Hepatitis B.

Sut ddylwn i ddiogelu eraill rhag cael hepatitis B?

Os ydych chi â hepatitis B, mae’n bwysig hefyd ceisio lleihau’r perygl i eraill gael yr haint gennych chi

Dylech:

  • Osgoi rhyw heb ddiogelwch – yn cynnwys rhyw yr anws a’r geg, oni bai eich bod yn sicr fod eich partner wedi cael brechiad rhag hepatitis B;
  • Osgoi rhannu nodwyddau a ddefnyddir i chwistrellu cyffuriau â phobl eraill;
  • Bod yn ofalus i osgoi lledaeniad haint - fel peidio â rhannu brwshys dannedd neu raseli â phobl eraill; mae’n bosib y bydd angen i aelodau’r teulu gael eu brechu;
  • Bwyta diet sy’n iach ac yn gytbwys yn gyffredinol – nid oes yna ddiet arbennig ar gyfer pobl sydd â hepatitis B;
  • Osgoi yfed alcohol – gall alcohol gynyddu eich risg o ddatblygu problemau difrifol yn yr iau;
  • Siaradwch â’ch meddyg os byddwch yn ystyried cael babi.

Gellid cynghori unrhyw gysylltiadau agos, fel pobl sy’n byw yn yr un tŷ â chi, i gael y brechlyn hepatitis B i leihau eu risg o gael eu heintio.

Gallwch ddod o hyd i fwy ar eich trin eich hun a diogelu eraill rhag Hepatitis B ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Rwy’n meddwl fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o gael hepatitis B. Beth ddylwn i ei wneud?

Dylech fynd i gael cyngor gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am hepatitis B?

Mae Galw Iechyd Cymru â gwybodaeth eang am hepatitis B ar eu gwefan. Gellir cael cyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

Aseswch eich Risg. Gweithredwch.
Gallwch gael gwybodaeth am gyngor a phrofion yn eich ardal chi

Ynglyn â

Mae'r safle hwn wedi cael ei gynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru